Rwy’n dod o deulu ffermio ac rwy’n deall pwysigrwydd amaethyddiaeth i economi’r DU. Rwy’n falch o gynrychioli etholaeth Ynys Môn yn y Senedd. Mae Môn yn gartref i sector amaethyddol sy’n gweithredu i rai o’r safonau uchaf ac yn cynhyrchu rhai o’r cynnyrch o’r safon uchaf yn y Deyrnas Unedig, os nad yn fyd-eang. Mae amaethyddiaeth yn hanfodol i lwyddiant ein heconomi leol ac mae’n un o gonglfeini llwyddiant sector twristiaeth a lletygarwch yr ynys. Ers cael fy ethol, rwyf wedi cwrdd yn rheolaidd ac wedi ymgysylltu ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, yr FUW a Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ac, yn ystod yr argyfwng digynsail hwn, rwyf wedi gweld ein ffermwyr yn gweithio’n ddiflino, yn wyneb heriau enfawr, i fwydo ein cenedl. Rwy’n falch iawn o’u cadernid a dylem i gyd fod yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad amhrisiadwy yn ein brwydr yn erbyn Covid-19.
Yr oedd maniffesto’r Blaid Geidwadol, y safais ynddo, yn glir wrth addo na fydd unrhyw gyfaddawdu ar safonau uchel y DU yn ystod trafodaethau masnach y Llywodraeth, a hynny o ran diogelu’r amgylchedd, lles anifeiliaid a bwyd. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo’n gadarn i gynnal y safonau hyn y tu allan i’r UE, a bydd Deddf Ymadael â’r UE yn trosglwyddo holl ddarpariaethau diogelwch bwyd presennol yr UE, gan gynnwys gofynion mewnforio presennol, i lyfr statud y DU.