Mae twristiaeth yn hanfodol i’r economi a chymunedau ledled Cymru, gyda miloedd o swyddi’n cael eu creu a busnesau’n cael eu cefnogi. Mae Cymru’n croesawu dros 100 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn; pobl sy’n gwario eu harian, yn cefnogi swyddi lleol ac yn mwynhau ein hatyniadau ysblennydd.
Yn 2021 fe wnes i wahodd busnesau Ynys Môn i gyfarfod bwrdd crwn drwy Zoom gyda Gweinidog Busnes y DU ac ym mis Mehefin 2022 fe wnes i gynnal cyfarfod bwrdd crwn Twristiaeth a Lletygarwch yn M-SParc gyda Kate Nicholls OBE - Prif Swyddog Gweithredol UK Hospitality i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau sy’n wynebu’r sector a thrafod sut gallwn ni gefnogi’r busnesau hyn.
Rydw i’n cefnogi busnesau twristiaeth lleol yn rheolaidd drwy fy nghynlluniau “ciniawau lleol” a “dydd Sadwrn busnesau bach”, ac yn ddiweddar rydw i wedi mwynhau ymweld â llefydd fel Bwthyn Treftadaeth Swtan, stiwdio’r Hetiwr Hurt, a llawer mwy.