RAF y Fali yw un o’r cyflogwyr mwyaf ar Ynys Môn ac yr wyf bob amser yn gwthio’n gryf iawn, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, pa mor bwysig yw’r swyddi medrus hyn yn fy etholaeth i.
Yn 2020, roeddwn yn falch iawn o gael fy newis yn un o ddim ond llond llaw o Aelodau Seneddol i ymuno â Chynllun Seneddol y Lluoedd Arfog.
Yn 2021 ymwelais ag RAF y Fali i ddangos fy nghefnogaeth i’r lluoedd arfog ac i gwrdd â phrentisiaid lleol sy’n derbyn hyfforddiant medrus iawn yn y ganolfan. Yr oeddwn hefyd yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog yn y gyfraith.
Ym mis Mawrth 2022, cefais y fraint o gael fy ngwahodd i dorri'r dywarchen gyntaf ar y safle adeiladu ar gyfer cyfleusterau hyfforddi newydd yn RAF y Fali yn dilyn buddsoddiad gwerth £175 miliwn yn y ganolfan gan Lywodraeth y DU. Mae’r ganolfan yn parhau i fod yn gyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer hyfforddi peilotiaid ac yn rhan hanfodol o gapasiti amddiffyn y DU. Mae’n cyflogi gweithwyr medrus iawn, yn gyrru economi Ynys Môn ac mae’r buddsoddiad hwn yn dangos bod Llywodraeth y DU yn credu’r un fath.
Yn gynharach eleni, cynhaliais ginio gala a gododd dros £3000 ar gyfer SSAFA, Elusen Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Mae RAF y Fali yn rhan allweddol o’r gymuned yma ar Ynys Môn ac roeddwn yn awyddus felly i wneud popeth o fewn fy ngallu i gael gwell dealltwriaeth o’r gwasanaeth a’i staff. Rydw i wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf i hyrwyddo’r ganolfan wrth galon y Llywodraeth a sicrhau ei bod yn cael ei chynnal yn y tymor hir.