O fy mhrofiad fy hun a’r nifer o negeseuon e-bost ynghylch hyn, rwy’n ymwybodol fod problemau gyda band eang ar draws Ynys Môn. Bydd cysylltedd gwell yn talu ar ei ganfed wrth geisio denu swyddi newydd i’r etholaeth, gan roi hwb i’r sector twristiaeth a lletygarwch. Dyma pam fy mod i’n gweithio gyda thîm o arbenigwyr, gan gynnwys rhai o Brifysgol Bangor a BT i ddod o hyd i ffyrdd o wella’r seilwaith band eang yn lleol. Mae darpariaeth band eang GigaBit Llywodraeth Geidwadol y DU yn gweithio’n dda, ond rwy’n ceisio mynd ymhellach er mwyn cael gwared ar y mannau gwan ar yr ynys.
Fel rhan o’r gwaith hwnnw, mae angen i ni gael gwybod am eich profiadau o ddefnyddio Band Eang ar Ynys Môn, felly beth am gwblhau fy arolwg byr a chofrestru i dderbyn fy nghylchlythyr fel eich bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr ymgyrch?
Gallwch wirio cyflymder eich band eang yma