Yng Nghymru, mae Gofal Iechyd a’r GIG wedi’u datganoli, a’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd sy’n gyfrifol amdanynt.
Y llynedd, derbyniodd Gymru £19.2 BILIWN gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig - ei setliad cyllido mwyaf ers datganoli. Am bob £100 y mae Llywodraeth y DU yn ei wario fesul person yn Lloegr, maent yn rhoi £120 i Lywodraeth Cymru. Er hynny, mae llawer o drigolion Ynys Môn yn ei chael hi’n anodd cael apwyntiad meddyg teulu, ysbyty neu ddeintyddol. Mae 25% o gleifion ar restrau aros yng Nghymru wedi bod yn aros dros flwyddyn am driniaeth, o gymharu â 5% yn Lloegr.
Ymunwch â’m hymgyrch i wella mynediad at ofal iechyd ar Ynys Môn. Mae eich barn a’ch profiadau chi’n bwysig, a gyda’n gilydd gallwn anfon neges glir at y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd bod yn rhaid iddynt fuddsoddi a gwella gofal iechyd ar Ynys Môn.
Ers dod yn AS, rwyf wedi cael bron i 1,500 o lythyrau a negeseuon e-bost yn ymwneud â darpariaeth iechyd annigonol. Dyna pam, er bod y GIG yng Nghymru wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, rwyf yn cydnabod ei bod yn bwysig imi bwyso am welliannau i’ch pryderon ynghylch amseroedd aros am ambiwlansys, prinder staff, gwasanaethau iechyd meddwl gwael a methiannau eraill yn y system iechyd.
Mae gen i gefndir ym maes iechyd a dyna pam rydw i’n cymryd y camau canlynol:
- Cwrdd yn rheolaidd â’r Prif Weithredwr ac uwch dîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dynnu sylw at broblemau a chanfod atebion.
- Gweithio’n agos gyda’r tîm sy’n cynrychioli Hwb Iechyd Cybi i recriwtio meddygon teulu ar gyfer ardaloedd lle mae’r prinder mwyaf difrifol ar yr ynys wedi bod yn effeithio ar brofiad y claf.
- Ysgrifennu at y Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru pan oedd arnynt angen adnoddau ychwanegol gan y lluoedd arfog i staffio ambiwlansiau yn y gaeaf.
- Rhoi cymorth i gyflwyno clinigau brechu Covid lleol pan oedd meddygfeydd yn ei chael hi’n anodd cyrraedd y targedau.
- Lansio ymgyrchoedd llwyddiannus ar gymorth cyntaf iechyd meddwl a dod â diffibrilwyr a hyfforddiant ar gyfer eu defnyddio i Ynys Môn.
Rwy’n gwybod bod timau’r GIG ar lawr gwlad yn gwneud popeth o fewn eu gallu i drin pobl leol, ac rwy’n diolch o waelod calon iddynt am eu gwaith caled, ond maent yn darparu gwasanaethau mewn cyd-destun o danariannu eithafol. Am y rheswm hwnnw, byddaf yn parhau i bwyso am y gwasanaethau iechyd gorau i bobl leol.