Cafodd Llywodraeth y DU ei hethol ar faniffesto i ni adael yr UE a chodi’r gwastad yn y DU. Mae codi’r gwastad yn golygu sicrhau bod ardaloedd yn y DU sydd wedi cael eu tanariannu yn ystod y blynyddoedd diwethaf – fel Ynys Môn – yn cael mewnfuddsoddiad er mwyn i’n pobl leol gael yr un cyfleoedd â rhannau o’r DU sy’n ffynnu. Rwyf wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr ynys yn elwa o’r hyn sydd ar gael.
Fodd bynnag, mae angen rheoli cyllid a buddsoddiadau er mwyn sicrhau mai trigolion Ynys Môn a fydd yn elwa arnynt. Dyna pam y mae fy ymgyrch Swyddi Lleol i Bobl Leol mor bwysig.
Pa un a ydych yn fusnes lleol bach sydd wedi ennill ei blwyf ar Ynys Môn neu’n gorfforaeth fyd-eang sy’n awyddus i fuddsoddi yma, mae Swyddi Lleol i Bobl Leol yn berffaith i chi.
Trwy ymuno â’m hymgyrch Swyddi Lleol i Bobl Leol, byddwch yn ymrwymo i wneud y canlynol:
- cyflogi pobl leol yn y rolau a gynigiwch yma ar Ynys Môn, pa bryd bynnag y bo modd
- hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhlith pawb sy’n gweithio ar yr ynys, yn cynnwys gweithwyr nad ydynt yn hanu o’r fan hon
- gweithio gyda darparwyr hyfforddiant lleol, pan fo angen, er mwyn helpu pobl leol i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddi a gynigiwch
- cynnig swyddi diogel, o ansawdd da, sy’n cynnig cyflogau da
- defnyddio busnesau lleol yn eich cadwyn gyflenwi pan fo modd.
Beth am fod yn rhan o rywbeth anhygoel i Ynys Môn – dangoswch eich ymrwymiad trwy ymuno â’m hymgyrch Swyddi Lleol i Bobl Leol yma.