Aelod Seneddol dros Ynys Môn
Rwy’n ymroddedig i symudedd cymdeithasol a grymuso eraill – a sicrhau mwy o swyddi i Ynys Môn yw lle byddaf yn cychwyn.
Fel athro mathemateg rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr un cyfleoedd ag y gwnes i eu mwynhau. Mae gen i gefndir dosbarth gweithiol ac addysg ysgol ramadeg. Fi oedd y person cyntaf yn fy nheulu i aros yn yr ysgol ar ôl 16 oed. Roedd fy nhaid yn löwr am 47 mlynedd ac roedd fy mam yn gweithio mewn ffatri jam. Yn dilyn gyrfa ddisglair yn GlaxoWellcome lle bûm yn gweithio ar gynhyrchu Interferon, UBS lle roeddwn yn un o’r Cyfarwyddwyr ieuengaf yn hanes UBS a HSBC lle enillais wobrau fel dadansoddwr fferyllol blaenllaw – ailhyfforddais fel athro.
Rwy’n byw gyda fy ngŵr, ein tri phlentyn a’n cocker spaniel Violet. Fel teulu rydyn ni’n mwynhau archwilio a cherdded y ci. Mae’r bywyd awyr agored yn bwysig i ni ac rydyn ni’n mwynhau bod yn rhan o gymuned – a dyna pam rydyn ni’n caru byw yma ar Ynys Môn.
Rwyf eisio i bawb yn Ynys Môn gael yr un cyfleoedd ag y cefais i lwyddo mewn bywyd.. Dyna pam mai fi fydd eich hyrwyddwr lleol am swyddi, cyflogaeth fedrus a buddsoddiad. Rwyf am i’n pobl ifanc anelu at ddyfodol yma ar yr ynys. Mae’r genhedlaeth nesaf yn allweddol i gadw ein cymunedau gyda’i gilydd a’r Gymraeg yn fyw. Fy nod yw bod yn llais i’r rhai nad oes ganddynt lais a gwneud yfory yn ddiwrnod gwell i gynifer o bobl â phosibl.