- Ydych chi'n cael trafferth cael apwyntiad gyda Meddyg Teulu?
- A yw llinell ffôn eich meddyg yn brysur drwy'r amser?
- A ydych yn teimlo bod y GIG yng Nghymru wedi eich siomi?
Mae gwasanaethau iechyd ledled Ynys Môn yn cael trafferth. Yng Nghaergybi, mae diffyg Meddygon Teulu a chyfleusterau meddygol yn golygu bod pobl leol yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiadau ac mae eu hiechyd yn dioddef.
Mae Caergybi ddirfawr angen canolfan feddygol fodern, weithredol, addas i'r diben gyda digon o Feddygon Teulu ac ystod eang o nyrsys a gwasanaethau cynorthwyol.
Mae cyn safle Ysgol y Parc yng Nghaergybi yn lleoliad posibl ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dweud wrthyf fod arian yn broblem er gwaetha'r newid mawr y byddai'n ei wneud i ddeilliannau iechyd pobl ledled yr ynys.
Ymunwch â f'ymgyrch isod fel y gallaf ddangos i BIPBC a Llywodraeth Cymru pa mor bwysig yw hyn i ni.