Mae rheolwr tafarn o Lanfachraeth sydd wedi codi arian i elusennau a chwarae rhan flaenllaw wrth ofalu am bobl yn yr ardal, yn arwr cudd mis Ebrill Virginia Crosbie AS.
Symudodd Liz Mangan i Lanfachraeth naw mlynedd yn ôl i redeg Gwesty’r Holland gyda’r bwriad o aros am ychydig wythnosau yn unig.
Fodd bynnag, cafodd groeso cynnes gan y gymuned a’i hysgogodd i aros a phenderfynodd Liz rooi rhywbeth yn ôl i gymuned y pentref.
Fe ddechreuodd gyda diwrnod o hwyl i godi arian i Dŷ Gobaith ac yna rhoddodd Liz dîm ar waith ar gyfer Relay for Life i godi arian ar eu cyfer bob blwyddyn, a llwyddo i godi dros £20,000 yn ystod y cyfnod clo yn unig.
Bellach mae hi’n canolbwyntio ar elusennau lleol fel Cwsg Babi Cwsg, amryw o wardiau yn yr ysbyty, teuluoedd lleol, ac unrhyw un sydd wirioneddol angen cymorth.
Mentrau wyau Pasg, Grotos Siôn Corn, bingo, nosweithiau rasio, partïon Calan Gaeaf i blant, nosweithiau cwis, mae’r cyfan ar gael un ai am ddim neu er budd elusennau, eglurodd Liz.
“Yn sicr, rwy’n teimlo’n dda gallu helpu fel hyn,” dywedodd. “Ar wahân i’r gwaith elusennol, rydym hefyd yn ceisio gwneud cymaint ag y gallwn i’r plant a’r oedolion o gwmpas y pentref, fel ffordd o ddweud diolch am ein croesawu ac am lwyddo i ymdopi efo ni.
“Rydym yn cynnal clwb dydd Mawrth ar gyfer yr henoed a’r rhai bregus. Maent yn cael brechdanau a the a choffi am ddim lle gallant fod yn gynnes drwy’r gaeaf a chael sgwrs gyfeillgar, ac yn yr haf, rydym yn ei alw’n Lle Diogel - sef union yr un fath, ond heb y gwres a’r tân coed.
“Bu’n llwyddiant ysgubol. Rydym hefyd yn trefnu i faniau hufen iâ neu wafflau barcio yma a rhoi bwydydd am ddim i’r plant, ac fe dalwn ni am y cyfan ar y diwedd.
“Rydym wrth ein bodd gyda phopeth y trown ato. Rhaid i mi ddweud fy mod i mor werthfawrogol o fy ngŵr. Dwi’n sicr y byddem wedi ysgaru ers blynyddoedd heb ei gefnogaeth.”
Ychwanegodd Virginia: “Bu Liz yn aelod ddiflino o’r gymuned yn Llanfachraeth a’r pentrefi cyfagos ers bron i ddegawd bellach, gan godi arian a gofalu am bobl leol sydd angen cefnogaeth a chymorth.
“Mae ei gwaith yn enghraifft arbennig o'r haelioni sydd gennym yma ar Ynys Môn mewn sawl ardal ac rwyf wrth fy modd mai Liz yw fy Arwr Cudd mis Ebrill.”