Aeth perchnogion meithrinfa yng Nghaergybi a phennaeth Ysgol Gymuned Y Fali i Stryd Downing yr wythnos hon gydag AS Ynys Môn Virginia Crosbie ar gyfer Derbyniad Pencampwyr Gofal Plant yn y Gymuned.
Cafodd Sue ac Alex McGinn, perchnogion Newry Nursery and Juniors ar Stryd Boston, eu henwebu gan Virginia am eu gwaith ac oherwydd ymwneud Sue â datblygu hwb ieuenctid yng Nghaergybi.
Un arall a gamodd dros riniog y drws du enwog ddydd Mawrth oedd Iolo Evans sy'n arwain Ysgol Gymuned Y Fali. Daeth â'i ddisgyblion i Westminster yn ddiweddar ar gyfer gweithdy a thaith a chafodd ef hefyd ei enwebu gan Virginia.
Roedd y derbyniad - a gynhaliwyd gan y Gweinidog dros Blant David Jonston - yn gyfle i anrhydeddu pencampwyr ar hyd a lled y wlad oedd wedi helpu i roi'r 'dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn'.
Meddai'r fam a'r ferch, Sue ac Alex: “roedd yn Anrhydedd ac yn fraint i ni gael ein henwebu ar gyfer gwobr Pencampwyr Gofal Plant yn y Gymuned a gynhaliwyd gan y Gweinidog David Johnston.
“Roedd treulio'r prynhawn yn 10 Stryd Downing a chyfarfod unigolion oedd yn ysbrydoli wir yn fraint. Diolch enfawr i'n AS lleol Virginia Crosbie am yr enwebiad.”
Dywedodd Iolo: "Roeddwn yn wirioneddol ddiolchgar o gael fy enwebu ar gyfer hyn. Roedd hi'n bleser cael cyfarfod gyda Virginia yn y Senedd gyda'r plant ysgol pythefnos yn ôl ac yn gyfle gwych. Roedd gallu cael cyfarfod eto yn 10 Stryd Downing yn gyfle unwaith mewn oes.
"Roedd y profiad o ymweld â'r eiconig Rhif 10 a churo ar y drws enwog yn wych ac roedd hi mor hyfryd derbyn y fath groeso, yn ogystal â chyfarfod gyda nifer o bobl eraill ar hyd a lled y wlad oedd hefyd wedi'u henwebu.
"Diolch o galon i Virginia am drefnu hyn."
Ychwanegodd Virginia: "Roedd yn bleser gen i ddod â'r pencampwyr ymroddedig yma i Lundain i ymweld â Stryd Downing ac i gael eu hanrhydeddu am y gwaith ardderchog maent yn ei wneud i roi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i bob plentyn.
"Rwyf wrth fy modd yn mynychu'r digwyddiadau yma ac yn gweld pobl yr ynys yn derbyn y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu am y gwaith rhagorol maent yn ei wneud yn ein cymunedau. Mae'n fraint ac yn hwyl fawr hefyd."