Mae Aelod Seneddol Ynys Môn Virginia Crosbie wedi galw ar Lafur Cymru i weithio ar draws ffiniau gyda Lloegr ar ddarpariaeth gofal iechyd, er mwyn ceisio mynd i’r afael â diffygion y GIG yng Nghymru.
Yr wythnos hon, arweiniodd Virginia drafodaeth seneddol ar gydweithio trawsffiniol ar wasanaethau iechyd. Mae iechyd yn faes datganoledig, dywedodd wrth ASau, ond mae traean o’i phost yn ymwneud â’r gwasanaeth iechyd oherwydd ei fod yn gweithio mor wael yng Nghymru.
Esboniodd fod gan gleifion, teuluoedd a hyd yn oed aelodau staff bryderon mawr ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r effaith yr oedd ei ddiffygion yn ei chael ar bobl gogledd Cymru. Fe glywodd ASau fod rhestrau aros yn llawer hirach yng Nghymru nag ydynt yn Lloegr.
“Ar hyn o bryd, mae BIPBC yn destun mesurau arbennig Llywodraeth Cymru, nid am y tro cyntaf ond am yr eildro. Er hynny, ymddengys bod ei berfformiad yn gwaethygu yn hytrach na gwella. Mae wedi cael ei alw’n “gamweithredol”, yn “hollol ddi-drefn” ac yn “anobeithiol”,” dywedodd Virginia wrth ASau.
“Dyna pam mae fy nghydweithwyr a minnau am i Lywodraeth y DU helpu i ddod o hyd i ddatrysiad, a pham mae gwir angen y canlynol arnom: cydweithio llawer gwell ar draws ffiniau ar ein gwasanaethau iechyd; data sy’n ein galluogi i gymharu perfformiad yn uniongyrchol ar draws holl fyrddau iechyd y DU; cydnabyddiaeth fod gan Lywodraeth y DU ddyletswydd foesol, a chyfreithiol gellid dadlau, i weithredu pan fo llesiant ei dinasyddion yn cael ei gyfaddawdu, a pharodrwydd i weithredu ar y ddyletswydd honno pan fo angen.”
Esboniodd Virginia fod cyn-ysgrifennydd iechyd wedi cysylltu â llywodraeth Lafur Cymru i gynnig hawl i bobl yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau’r GIG yn Lloegr.
“Yn anffodus, mae Gweinidog Iechyd Cymru yn honni nad oes ganddi’r gyllideb ychwanegol i allu hwyluso’r cynnig hwnnw, er y manteision amlwg y gallai ei gynnig i’n hetholwyr,” dywedodd Virginia wrth ASau.
“Ond mae Llywodraeth Cymru yn gallu dod o hyd i oddeutu £100 miliwn er mwyn cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd o 60 i 96, £4.25 miliwn i brynu fferm nad yw’n gallu ei datblygu bellach, a thros £30 miliwn i weithredu’r terfyn cyflymder 20mya - sydd wedi bod yn destun gwatwar.”
Ychwanegodd: “Er nad ydym yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru, mae traean o fy mhost yn ymwneud â hyn, ac ni allaf i na fy nghydweithwyr droi ein cefnau ar ein hetholwyr.
“Ni allwn anwybyddu eu problemau a beio Cymru, gan fod y rhain yn sefyllfaoedd tyngedfennol. Mae angen o ddifrif i Lywodraeth y DU gamu i mewn a phwyso am gydweithio trawsffiniol. Mae gwir angen i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth dros y mater hwn a gwneud rhywbeth nawr i amddiffyn llesiant dinasyddion Prydeinig.”
Dyma oedd ymateb Andrew Stephenson, y Gweinidog Iechyd: “Cyflwynwyd cynnig diffuant i’r gweinyddiaethau datganoledig, ac mae’r cynnig hwnnw’n dal i fod yno. Rydym yn parhau a’n hymrwymiad i weithio’n agosach â’r gweinyddiaethau datganoledig ar adfer gofal a gynlluniwyd a mynediad at ofal sylfaenol, ar ben y trefniadau trawsffiniol sydd eisoes ar waith i ganiatáu i gleifion sy’n byw yng Nghymru ac yn yr Alban gael mynediad at ofal yn Lloegr mewn amgylchiadau penodol, gyda’r weinyddiaeth berthnasol yn talu am hynny.
“Mae hynny’n bwysig oherwydd, pan fo’n cael ei addasu i gael gwahaniaethau o ran data, mae rhestr aros Cymru o 677,000 yn cynrychioli 21.6 o lwybrau cleifion ym mhob 100 o’r boblogaeth o’i gymharu â 13.3 ym mhob 100 yn Lloegr.
Ychwanegodd: “Hoffwn dalu teyrnged i fy nghyfaill anrhydeddus am y gwaith mae hi wedi ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac i hyrwyddo pwysigrwydd cydweithio trawsffiniol ym maes iechyd ledled y Deyrnas Unedig. Mae hi’n codi pryderon ei hetholwyr gyda mi a gweinidogion iechyd eraill bob wythnos. Ni allai ei hetholwyr ddymuno gwell cynrychiolydd na hi.”