Mae AS Ynys Môn Virginia Crosbie wedi ymweld â sesiwn flasu grŵp cadw’n heini’r Nifty60s yng Nghaergybi sy’n annog pobl hŷn i gadw’n ffit ac yn actif.
Cafodd Virginia ei gwahodd gan James Lee o’r grŵp ar gyfer y digwyddiad yng Nghanolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi a Môn ddydd Gwener.
Mae’r AS hefyd wedi ysgrifennu i gefnogi cais y grŵp am gyllid y Loteri Genedlaethol.
Roedd y digwyddiad Nifty60s yn rhan o ddiwrnod sgwrs iechyd lleol ochr yn ochr â BIPBC lle’r oedd croeso i’r cyhoedd alw heibio i ddysgu rhagor am eu gwasanaethau iechyd lleol, siarad â rheolwyr iechyd a chymryd rhan yn y sesiwn ymarfer corff.
“Waeth pa oed, mae dod yn ffit ac yn actif yn hynod bwysig, boed hynny’n mynd am dro neu arddio neu gymryd rhan mewn ymarfer corff gyda’r Nifty60s,” meddai Virginia.
“Diolch yn fawr i James a’r grŵp am y gwahoddiad. Mae’n adnodd cymunedol gwych sy’n helpu pobl hŷn gyda’u hiechyd corfforol a meddyliol.
“Rwy’n gobeithio y bydd ein pobl hŷn yng Nghaergybi yn ystyried ymuno ac rwy’n llwyr gefnogi’r cais am arian ychwanegol gan y Loteri Genedlaethol i ymestyn grwpiau ar draws yr ynys.”
Sefydlwyd y Nifty60s yn 2019 gan Ray Williams o Ganolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi a Môn. Nod Ray oedd gostwng nifer yr achosion o lithro, baglu a syrthio ar gyfer pobl hŷn yn lleol a lleihau’r pwysau ar feddygfeydd ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Mae’r grŵp yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ymwrthedd a swyddogaethol, gan adeiladu cryfder craidd, hyblygrwydd a symudedd. Mae’r sesiynau, sydd ag oedran cyfartalog o 74, wedi ehangu gyda 30 fesul dosbarth.
Mae 132 o aelodau’n cyflawni gwell cryfder, symudedd a hyblygrwydd yn ogystal â gwell cryfder corfforol a meddyliol.
Mae’r grŵp yn bwriadu ymestyn y model Nifty60s ar hyd a lled Môn, gyda hyd at bum hwb yn mynd o flaen panel yn hwyrach yn y mis gyda Chais Cam 2 am Gyllid y Loteri Genedlaethol, sy’n derbyn cefnogaeth gan Virginia.