Cysylltodd dau o drigolion Ynys Môn, Mandy Jones a’r Cynghorydd Aled Morris, â mi’n ddiweddar yn gofyn i mi helpu eu cymuned leol i ddod ag archfarchnad Aldi i Amlwch.
Yn dilyn fy nghyfarfod â Mandy, Aled a thrigain o drigolion lleol eraill yng Nghaffi Blueberries yn Amlwch i drafod y mater, rwyf wedi lansio fy ymgyrch ‘Angen Aldi yn Amlwch’.
Mae cystadleuaeth a dewis o archfarchnadoedd yn dda i’n hynys a chredaf y byddai Amlwch yn elwa o siop arall. Gwn fod y bobl leol a gwrddais yng Nghaffi Blueberries yn sicr o’r un farn a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gyflwyno’r achos i Aldi.
Rwyf eisoes wedi cysylltu ag Aldi ond mae angen i ni ddangos bod cefnogaeth eang iddynt sefydlu archfarchnad newydd yn Amlwch, felly cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ffurflen isod ac ychwanegwch eich llais i fy ymgyrch.