Mae Senedd y DU yn San Steffan, Llundain, bron bob wythnos o ddydd Llun i ddydd Iau neu ddydd Gwener. Pan fydd y Senedd yn cyfarfod, fy ngwaith i yw bod yno yn Llundain yn eich cynrychioli. Mae hon yn swydd rwy'n ei chymryd o ddifrif.
Tra fy mod yn San Steffan rwy'n cael cyfarfodydd, yn gwneud areithiau, yn lobïo Gweinidogion, yn gofyn cwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar a llawer mwy.
- Gallwch weld llawer o fy areithiau ar fy sianel YouTube yma .
- Mae fy nghofnod Seneddol i'w weld yma (chwiliwch am Ynys Môn).
- Mae fy nghofnod o gwestiynau ysgrifenedig i Weinidogion yma .
- Gallwch weld diweddariadau rheolaidd ar fy ngwaith yn San Steffan ac ar Ynys Môn ar fy nhudalen Facebook .
- Fe welwch gyfoeth o adnoddau eraill ar gyfer pob oed am Senedd y DU (gan gynnwys fideos, gemau, llyfrau a mwy) ar-lein yma .
Os hoffech chi ymweld â’r Senedd, cael rhagor o wybodaeth am sut mae Senedd y DU yn gweithio neu archwilio sut y gallwch chi gymryd mwy o ran, cysylltwch â mi ar virginia.crosbie.mp@parliament.uk