Ar 17 Medi 2023 newidiodd Llywodraeth Lafur Cymru y terfyn cyflymder “cenedlaethol” rhagosodedig mewn “ardaloedd adeiledig” ledled Cymru o 30mya i 20mya.
Mae cyfrifon Llywodraeth Cymru ei hun yn amcangyfrif £32.5m fydd cost rhoi’r newid hwn ar waith, a’r gost i economi Cymru yn y tymor hir fydd £4.5bn.
Fel cymuned wledig, mae’r newid hwn wedi cael effaith sylweddol ar Ynys Môn. Bu mwy o doriadau gwasanaethau bws oherwydd amseroedd teithiau hirach, ac mae hyn hefyd wedi effeithio ar y rhai sy’n dibynnu ar y gwasanaethau ar gyfer gwaith ac addysg. Mae'r newid hefyd wedi effeithio ar weithwyr allweddol fel gofalwyr a’r rhai sy’n gweithio i’r gwasanaethau argyfwng.
Mae nifer o resymau pam mae terfyn cyflymder 20mya yn addas mewn rhai ardaloedd adeiledig - yn enwedig o amgylch ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal, ond mae ei osod fel y terfyn cyflymder rhagosodedig mewn cymunedau gwledig yn creu anghydraddoldeb pellach mewn ardaloedd o Gymru sydd eisoes yn ddifreintiedig. Ychydig ohonom ar Ynys Môn a fyddai’n cytuno â honiad Llywodraeth Cymru mai dim ond “un munud mae’r mesur yn ei ychwanegu at y cyfartaledd amser teithio”.
Mae gan Gyngor Ynys Môn y pŵer i ddiddymu'r terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd lle nad yw’n addas. Hoffwn iddynt ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch pa ffyrdd a ddylai gael eu heithrio o’r terfyn cyflymder 20mya ac mae angen eich cymorth arnaf i gyflawni hynny.
Rhowch wybod i mi beth yw eich barn fel y gallaf ei thrafod â’ch cynghorwyr lleol.