Mae AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn yn gofyn iddo fwrw ymlaen gyda chyflwyno eithriadau i derfyn cyflymder rhagosodedig 20mya y llywodraeth Lafur.
Hyd yma, 17 eithriad yn unig sydd wedi’u cyflwyno gan yr awdurdod i’r terfyn dadleuol pan fo Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno 85.
Yn y llythyr i brif weithredwr y cyngor, Dylan Williams, dywedodd Virginia: “Rydym wedi trafod y terfyn amser rhagosodedig 20mya nifer o weithiau a byddwch yn ymwybodol fy mod wedi cynnal uwchgyfarfod 20mya yn Llangefni yn ddiweddar.
“Trefnwyd yr uwchgyfarfod i roi’r cyfle i etholwyr Ynys Môn rannu eu profiadau o’r terfyn 20mya a’r ardaloedd y gellid eu hystyried i ddod yn eithriadau i’r terfyn.
“Mae’r cyflymder gostyngedig yn nifer o’n pentrefi wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd teithio sydd, yn ei dro, wedi effeithio ar amserlenni bysiau, darpariaeth gofalwyr, etc. Mae llawer o fy etholwyr yn cael trafferth mynychu apwyntiadau a rheoli amserlenni gwaith/ysgol, ac mae eraill yn fy hysbysu eu bod bellach i bob pwrpas wedi’u torri i ffwrdd rhag gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Cefais wybod gennych sawl wythnos yn ôl bod y cyngor yn aros i’r canllawiau diweddaraf gael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru cyn ystyried unrhyw eithriadau pellach. Mae’r canllawiau’n parhau i fod heb eu cyhoeddi ac yn dilyn cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru, gwyddom na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan o leiaf mis Gorffennaf.
“Deallaf fod yr awdurdodau lleol eraill yn ymgynghori ar eithriadau ac yn symud ymlaen â hwy. Gofynnaf felly, ar ran fy etholwyr, i Gyngor Ynys Môn fwrw ati o leiaf a dechrau’r broses o ymgynghori.”
Ychwanegodd bod eithriadau posibl wedi’u trafod yn ystod ei uwchgyfarfod 20mya, gan gynnwys: yr A5025 drwy Bontrhydybont, yr A5 drwy Gaerwen a’r A5025 drwy Benllech ac eithrio’r ardal ganolog o amgylch y groesffordd.
Ychwanegodd yr AS: “Rwyf wedi derbyn nifer fawr o negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn gan etholwyr yn pryderu am y newid hwn. Mae’r ddeiseb yn erbyn y polisi hwn wedi cyrraedd dros 460,000 o lofnodion, gydag 8,796 ohonynt yn dod o Ynys Môn.
“Mae’r polisi hwn yn achosi difrod yng Nghymru, gyda chwmnïau bysiau yn cael eu gorfodi i wneud toriadau pellach i’w gwasanaethau yn sgil hynny. Rwyf o’r farn y byddai’n fwy priodol petai’r terfyn cyflymder yn cael ei gyflwyno ger ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, meysydd chwarae ac ardaloedd preswyl adeiledig yn unig.”