Bydd Arweinydd y Tŷ, Penny Mordaunt yn ystyried torri'r rhuban i agor Aldi newydd yn Amlwch gyda chleddyf os fydd ymgyrch AS Ynys Môn Virginia Crosbie i ddod â'r archfarchnad i'r dref yn llwyddiannus.
Gan wneud yn fawr o'i rôl enwog yn seremoni Coroni'r Brenin y llynedd pan fu iddi ddal cleddyf seremonïol mawr, fe wnaeth yr aelod cabinet ymateb i Virginia yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon.
Yn ystod cwestiynau busnes meddai Virginia: "Am flynyddoedd, mae tref Amlwch wedi cael ei hanghofio,ond nid tra byddaf i yn fy swydd.
"Mae porthladd rhydd Ynys Môn a phryniant diweddar Llywodraeth y DU o safle niwclear Wylfa yn golygu swyddi a buddsoddiad i ogledd yr ynys - ond dy'n ni ddim am roi'r gorau iddi yn y fan yna.
"Rwyf i, ynghyd â phreswylydd lleol, Mandy Jones, wedi lansio ymgyrch i gael yr archfarchnad Aldi i ddod i Amlwch a rhoi cyfle i fy etholwyr gael siopa'n lleol.
"A wnaiff Arweinydd y Tŷ gefnogi fy ymgyrch Aldi i Amlwch, ac os yw'n llwyddiannus, a wnaiff hi ymuno gyda Mandy a mi i dorri'r rhuban?"
Wrth ymateb, meddai'r arweinydd: "Rwy'n llongyfarch fy nghyfaill anrhydeddus ar ei holl gyflawniadau: mae'r porthladdrhydd, y bartneriaeth rhwng y cyngor sir a Stena Line, a fydd yn rhoi hwb anferth i'r economi leol ac, wrth gwrs, ei chefnogaeth i brosiectau ynni, y parc ffyniant a'r ganolfan ragoriaeth masnachu sy'n cael ei sefydlu yng Nghymru.
"Mae hi wedi helpu i sicrhau'r holl bethau yna. Byddaf yn hapus iawn i wneud y cyfan allaf i i'w chynorthwyo gyda'i hymgyrch ddiweddaraf,sy'n ymddangos i fod yn un dda.
"Er na allaf i ymrwymo i ddyddiad hyd nes y byddaf yn derbyn un, rwy'n gobeithio, os allaf i fynychu, y byddaf yn gallu helpu i dorri'r rhuban - o bosib gyda chleddyf."
Wrth siarad yn dilyn hyn, ychwanegodd Virginia: "Er fy mod i'n gwybod nad yw'n bosib defnyddio'r cleddyf roedd hi'n ei ddefnyddio yn y coroni, rwy'n hoff iawn o'r syniad. Byddai'n wych ei chael hi ar yr ynys, ac yn beth gwych pe bai Aldi yn dod i Amlwch."