Mae ymgyrch a gefnogwyd gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, sy’n galw ar archfarchnadoedd i weithredu botwm ‘Prynu Cynnyrch Prydeinig’ ar-lein, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda manwerthwyr fel Aldi a Tesco bellach yn cymryd rhan.
Llofnododd Virginia lythyr agored, ynghyd â’i chydweithwyr, ym mis Awst y llynedd, yn galw ar archfarchnadoedd i dynnu sylw at y cynnyrch Prydeinig gorau drwy roi adran ‘Prynu Cynnyrch Prydeinig’ ar-lein ar waith.
Byddai hyn yn ei gwneud yn haws i bobl brynu cynnyrch cartref, a chefnogi ffermwyr ar Ynys Môn ac ar hyd a lled Prydain.
Ers hynny, mae Tesco, Morrisons, Aldi, Sainsbury’s, Ocado, Co-op a Waitrose wedi cytuno i gymryd rhan, gydag ASDA yn unig heb gytuno hyd yma.
“Rwy’n falch iawn fod yr ymgyrch a ddechreuwyd gan fy nghydweithiwr Dr Luke Evans wedi bod yn llwyddiant ysgubol i siopwyr, ac i’r busnesau sy’n creu ac yn tyfu rhai o’r cynhyrchion gorau yn y byd,” meddai Virginia.
“Mae miliynau o bobl yn siopa ar-lein erbyn hyn, a chyn yr ymgyrch, roedd gweld pa gynnyrch oedd wedi’i dyfu gartref yn anodd, er bod llawer o’r cynnyrch Prydeinig wedi’i labelu’n glir yn y siop. Mae’r anomaledd hwn nawr wedi cael ei gywiro i raddau helaeth, a diolch i’r archfarchnadoedd am wrando.
“Rwy’n arbennig o falch o weld bod Aldi wedi cytuno i gymryd rhan oherwydd fy ymgyrch i ddod ag Aldi i Amlwch. Mae’r archfarchnad hon wedi ymrwymo i gefnogi cynnyrch Prydeinig, a byddai siop newydd yn Amlwch yn atgyfnerthu hynny i’r bobl leol ac yn rhoi mwy o ddewis o leoedd i siopa i bawb ohonom.”