Mae AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn cefnogi’r ymgyrch i godi cofeb er mwyn anrhydeddu anwylyd y lluoedd, y Fonesig Vera Lynn, a oedd yn adnabyddus am ganu ‘We’ll Meet Again’ a ‘The White Cliffs of Dover’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r AS wedi ymuno â bron i 100 o gydweithwyr, dan arweiniad AS Dofr Natalie Elphicke, i ysgrifennu at y Prif Weinidog Rishi Sunak yn galw ar y llywodraeth i ddarparu cyllid i gwblhau’r gofeb.
Gyda thri cherflun o bob 100 yn unig yn coffáu merched, dywedodd Virginia y byddai’r gofeb yn gwneud gwahaniaeth pwysig ac yn anrhydeddu un o ddinasyddion gorau a mwyaf poblogaidd y wlad a fu farw yn 2020 yn 103 mlwydd oed.
“Roedd y Fonesig Vera Lynn yn rhan boblogaidd a dewr o hanes ein gwlad yn ystod blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd ac i mewn i’r 21ain ganrif a chredaf y dylai’r llywodraeth gamu i’r adwy a sicrhau bod cofeb briodol i anwylyd y lluoedd yn cael ei chwblhau,” meddai Virginia.
“Nid yn unig fy mod yn hapus ond rwy’n teimlo’n freintiedig i roi fy enw i’r ymgyrch hwn. Roedd y Fonesig Vera yn ymgorffori popeth da am Brydain ac am y Genhedlaeth Orau a frwydrodd dros ein rhyddid yn erbyn grymoedd tywyll ffasgaeth 80 mlynedd yn ôl.”
Roedd cyfraniad y gantores i forâl y wlad yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn enfawr, a theithiodd i sawl parth y gad ledled y byd, yn cynnwys Byrma, India a’r Aifft i ddifyrru milwyr a chodi ysbryd.
Ar ôl y rhyfel ni anghofiodd fyth y milwyr hynny, yn ddynion a merched, a gweithiodd yn ddiflino gyda gwaith elusen ar gyfer elusennau’r lluoedd, plant anabl a chanser y fron.
Mae arian wedi’i godi ar gyfer y gofeb ond byddai angen arian trethdalwyr i gwblhau’r prosiect.