Bob blwyddyn, mae ASau yn croesawu cannoedd o blant ysgol i’r Senedd ac rwyf bob amser yn ceisio cwrdd ag ymwelwyr o’r etholaeth i siarad am wleidyddiaeth a hanes San Steffan, gwaith AS ac am faterion lleol.
Os hoffech drefnu taith o amgylch Palas San Steffan, cysylltwch â fy swyddfa.
Gellir trefnu teithiau ar gyfer grwpiau o 20 o bobl ac mae teithiau mynych o'r un ysgol yn dderbyniol. Yn anffodus, ni allaf dalu costau teithio.
I gael rhagor o fanylion, fel yr amseroedd gorau i drefnu taith o amgylch y Senedd, ewch i www.parliament.uk/visiting/visiting-and-tours/ukvisitors . Byddwch yn ymwybodol bod angen trefnu teithiau fisoedd ymlaen llaw.
Mae yna hefyd ymweliadau addysgol rhad ac am ddim sydd, yn ogystal â thaith o amgylch y Palas, yn cynnig cyfle i blant a myfyrwyr ddysgu mwy am y Senedd trwy weithdai rhyngweithiol. Mae yna hefyd gymhorthdal teithio ar gael i ysgolion gwladol a allai dalu hyd at 75% o'ch costau teithio.
Gwneir pob archeb dros y ffôn, un tymor ysgol ymlaen llaw, ar ddyddiad penodol. I drefnu ymweliad addysgol, ewch i www.parliament.uk/education/visiting-parliament .