Ydych chi eisiau gwybod mwy am y camau nesaf ar gyfer niwclear newydd yn Wylfa a buddsoddiad £160m Llywodraeth y DU?
Ydych chi'n gwybod beth yw'r gwahaniaeth rhwng adweithyddion GW (gigawatt) graddfa fawr â SMR - Adweithyddion Bychain Modiwlar?
Ydych chi am ddeall sut fydd niwclear newydd yn Wylfa o fudd i chi, eich teulu a'ch cymuned?
Dewch i gyfarfod tîm NWNA - North West Nuclear Arc - mewn digwyddiad bord gron rhad ac am ddim yn y Dinorben Arms Hotel 3-5pm dydd Iau 16eg Mai - croeso cynnes i bawb.
Bydd Ivan Baldwin yn cyd-gadeirio'r digwyddiad gyda mi. Mae Ivan yn Gyfarwyddwr Busnes yn Bechtel ac yn rhan o dîm NWNA.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn isod:
Am ragor o wybodaeth am NWNA dilynwch y ddolen hon os gwelwch yn dda: https://nwna.co.uk/selected-for-next-stage-of-nuclear-energy-competition/