Yr hyn sydd gan fy etholwyr i’w ddweud…
Sean Chambers
Caergybi
Rwyf newydd dderbyn eich llythyr, ac fe hoffwn ddiolch yn fawr i chi am eich cymorth ar y mater hwn. Rwy’n hynod falch fod y Cyngor yn bwriadu talu sylw i’r mater unwaith y bydd pethau’n llonyddu gyda Covid. Fe fydd yn sicr o wneud gwahaniaeth mawr o ran cael mynediad i’r rhan honno o’r dref i fy mam a thrigolion eraill. Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r hyn rydych wedi’i wneud.
Richard Morgan-Jones
Amwlch
Diolch i’ch ymyrraeth brydlon, mae gennym bŵer trydanol yn ôl erbyn hyn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i chi ac i Sophie am eich cymorth gyda’r sefyllfa, ac mae popeth wedi’i ddatrys erbyn hyn.
Ann Garner
Ynys Môn
Hoffwn ddiolch i chi’ch dau am eich cyfraniad cynorthwyol gwych. Mae’r ymyriad ariannol wedi fy ngalluogi i dalu fy holl filiau sy’n dod yn daladwy a chwblhau gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar fy eiddo. Yn wir, mae wedi bod yn fendith yr wyf yn hynod werthfawrogol ohoni. Diolch o waelod calon i chi a Llywodraeth Cymru am ddyfarnu’r grant yma i mi.
Dawn Taylor & Nicola Roberts
Moelfre
Hoffem ddiolch yn fawr i chi am eich holl gymorth a’n galluogodd ni i dderbyn grant i’n siop a grant ar gyfer ein llety gwyliau. Rydych chi wedi bod yn hynod o gymwynasgar. A diolch unwaith eto i chi am ein gwobr Arwyr Cudd, sy’n golygu llawer iawn i ni a’n cwsmeriaid. Daliwch ati i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud, rydych chi wir yn gwneud gwahaniaeth.
Lisa Owen
Diolch i chi am eich holl gymorth dros y misoedd diwethaf, rwyf yn hynod ddiolchgar am y gallu i gysylltu â chi’n bersonol mewn cyfnod o ansicrwydd dwys.
Richard Bradshaw
Ynys Môn
Diolch i chi am eich ymyrraeth ddiweddar yn fy achos. Balch yw cael dweud bod y mater wedi’i ddatrys o fewn dyddiau wedi i mi gysylltu â chi. Diolch o waelod calon i chi am eich amser a’ch ymdrech i wneud yn siŵr fod y mater hwn yn cael ei ddatrys mor gyflym.
Helen a Geraint Owen
Ynys Môn
Diolch i chi a’ch staff am ysgrifennu at/e-bostio HSBC ynglŷn â’n cais benthyciad adfer, dim ond tair wythnos aeth heibio rhwng llofnodi’r dogfennau a derbyn y benthyciad, rydym wir yn gwerthfawrogi eich cymorth.
WM Jones
Ynys Môn
O ymholiad cychwynnol ar y dydd Sadwrn i ganlyniad ffafriol ar y bore Mawrth - roedd hyn yn effeithlon ac yn foddhaol iawn. Er mai dim ond am ychydig ddyddiau fu hyn, roedd y cyfathrebu wastad o’r radd flaenaf ac yn sicrhau fod pawb yn ymwybodol o’r wybodaeth briodol.
Mr Walker
Rwyf yn hynod falch i mi gysylltu â Virginia, a weithiodd yn ddiflino ar fy rhan, ac rwyf yn hynod ddiolchgar i chi am eich ymdrechion. Rydych chi’n cael eich beio am bopeth ac yn anaml yn cael eich canmol. Rwy’n ymwybodol fod eich rôl yn medru bod yn anodd ac yn llawn sialens, ond hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad dwysaf.
Moyà, Peter a Chris Hoyland
Parc Carafanau Point Lynas, Llaneilian, Amlwch
Diolch i chi am eich gohebiaeth ddiweddar a’ch gwaith i’n helpu i gyrraedd pwynt lle mae’r sector parc carfanau yn gallu ail-agor. Roeddem yn disgwyl nifer fawr o berchnogion carafanau’r wythnos ddiwethaf ond ni ddigwyddodd hynny, yn hytrach mae pobl yn dychwelyd ychydig yn arafach. Mae hyn wedi bod o fudd i’r gymuned allu addasu i gael mwy o bobl o gwmpas y lle wedi iddi fod mor dawel am gyfnod cyhyd. Rydym yn gobeithio adennill y tir yr ydym wedi’i golli yn ystod gweddill y tymor. Diolch am eich cymorth.
David Miller
Roedd gen i ofynion heriol wrth ddarparu gofal i rieni oedrannus, ac wedi i mi wneud yr hyn y gallwn, gofynnais i Ms Crosbie AS am gymorth penodol wrth weithio gyda’r GIG. Roedd ei chymorth yn amhrisiadwy. Roeddwn i mor falch o gael troi at rywun oedd yn benderfynol o helpu a oedd yn deall y problemau ac yn gallu cynnig datrysiadau, ble doedd gen i ddim. Roedd ei chymorth yn werthfawr, ond roedd ei chefnogaeth garedig a’i dealltwriaeth hyd yn oed yn well. Doeddwn i erioed wedi bod angen cymorth yn flaenorol. Tydw i ddim yn cytuno â Pholisïau Ceidwadol pob amser, ond roedd ei dull yn syml ac i’r pwynt gan ddangos diddordeb yn fy mhryderon. Yn wreiddiol, roeddwn i’n meddwl mai ei ffocws hi fel ein Haelod Seneddol oedd ar ei gyrfa, ond ar ôl i mi siarad â hi mae’n bur amlwg bod ei ffocws ar y bobl a’r cymunedau y mae hi’n eu cynrychioli.
Stephen M
Ni allaf ddiolch ddigon i chi am yr holl achlysuron lle rydych wedi mynd allan o’ch ffordd i helpu gyda’r materion bychain hyn. Rydych chi’n cadw at eich gair ac rwy’n ddiolchgar eich bod chi’n AS dros Ynys Môn. Yn y bôn, nid wyf yn Geidwadwr. Fodd bynnag, am ba bynnag hyd y byddwch chi’n sefyll fel Aelod Seneddol fe fyddwch yn derbyn fy mhleidlais i a’m teulu. Ni waeth beth mae’r Blaid Geidwadol yn ei wneud neu ddim yn ei wneud, rwyf yn eich ystyried yn rhywun sy’n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl arferol, di-bŵer yn y gymdeithas neoryddfrydol tywyll a rhyfedd hon. Rydych chi’n chwa o awyr iach ac rwy’n gobeithio eich bod chi’n sylweddoli cymaint o wahaniaeth cadarnhaol rydych chi’n ei wneud i fywydau pobl gyda’ch parodrwydd i helpu.