Mae AS Ynys Môn Virginia Crosbie wedi tynnu sylw at y diffyg cynlluniau ar gyfer trydedd bont i groesi afon Menai yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos hon wrth i waharddiad Llafur Cymru ar adeiladu ffyrdd newydd barhau.
Mae Virginia - ynghyd â nifer o bobl leol - am weld camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod trydydd croesiad yn cael ei roi ar waith nawr bod buddsoddiad sylweddol yn dod i'r ynys ar ffurf porthladd rhydd a phrosiectau ynni gwyrdd.
Gan siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, meddai: "Mae modd cael mynediad i fy etholaeth ar Ynys Môn dros ddwy bont: Pont Menai a Phont Britannia. Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf yn y DU ond mae gwaith atgyweirio'r bont a'r tywydd yn gallu achosi ciwiau traffig hir.
"Er mwyn gwneud y gorau o'n porthladd rhydd ar Ynys Môn a niwclear newydd yn Wylfa, mae trydedd groesfan yn hanfodol. Y llynedd, rhoddodd Llywodraeth Llafur Cymru bob cynllun ar gyfer prosiectau ffyrdd newydd ar stop, gan gynnwys ein trydedd bont.
"A fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn defnyddio ei ddylanwad i sicrhau nad yw gogledd Cymru yn cael ei hanwybyddu gan Gaerdydd, ac y gallwn gael y drydedd bont yna?"
Mewn ymateb dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Oliver Dowden: "Rwy'n gwybod ac yn deall y rhwystredigaeth ar hyd a lled Cymru, yn arbennig felly yn etholaeth fy nghyfaill anrhydeddus, ynghylch y sefyllfa sydd ohoni.
"Nid yw Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu adeiladu ffyrdd newydd. Maent yn gwneud niwed i dwf potensial mewn mannau megis Ynys Môn, ac yn gwario £100 miliwn ar wleidyddion newydd. Byddwn yn gweithio gyda hi er mwyn sicrhau ein bod yn datrys y mater."
Wrth siarad wedi hyn, meddai Virginia: "Rydym angen cadw'r pwysau ar y llywodraeth yng Nghaerdydd ynghylch sut mae Ynys Môn yn cael cam gan y polisi hwn o ddiffyg gweledigaeth. Mae trydedd fan croesi yn hanfodol i ragolygon economaidd yr ynys ac mae angen i hyn fod yn ôl ar yr agenda."