Yn aml mae pobl yn gofyn i mi sut y dewisir Aelodau Seneddol i ofyn cwestiynau yn ystod Sesiwn Holi ac Ateb y Prif Weinidog. Hap a damwain yw hyn yn llwyr ac rwy’n teimlo’n falch iawn bob tro y caf fy newis i siarad ar ran Ynys Môn yn ystod Sesiwn Holi ac Ateb y Prif Weinidog, – mae’n gyfle gwych i mi ofyn cwestiynau sy’n bwysig i’n hynys.
Cynhelir Sesiwn Holi ac Ateb y Prif Weinidog yn Siambr y Tŷ Cyffredin bob prynhawn Mercher ac fel AS mae gennyf nifer cyfyngedig o docynnau bob mis i bobl ei gwylio o’r galeri cyhoeddus yn y Tŷ Cyffredin. Hoffwn gynnig y cyfle hwn i’r rheiny yn fy etholaeth sy’n dymuno gwylio Sesiwn Holi ac Ateb y Prif Weinidog a chwrdd â mi yn San Steffan.
Gan fod tocynnau’n gwbl gyfyngedig, e-bostiwch fi yn virginia.crosbie.mp@parliament.uk os ydych yn dymuno gwneud cais i fynychu. Byddwn yn dewis ceisiadau ar hap pan fydd tocynnau ar gael. Byddwn yn dewis ceisiadau ar hap pan fydd tocynnau ar gael.