Rwy’n gweithio’n galed i gyflawni ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth y DU i ynni niwclear newydd yn Wylfa er mwyn rhoi dyfodol cadarn a sefydlog i bobl leol: Yn ei Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain 2022, mae Llywodraeth y DU yn enwi Wylfa fel safle allweddol ar gyfer un o’i wyth gorsaf ynni niwclear newydd arfaethedig. Byddai hyn yn golygu buddsoddiad o hyd at £20bn ar gyfer gorsaf ar raddfa fawr, gyda chymorth ychwanegol ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach. Byddai wyth mil o swyddi adeiladu ac 800 o yrfaoedd o ansawdd cyflwr sefydlog yn cael eu creu yn Wylfa newydd ochr yn ochr â channoedd yn rhagor o swyddi eilaidd a swyddi cadwyn gyflenwi. Bydd y gwaith medrus hwn yn galluogi ein pobl ifanc i fforddio eu cartrefi eu hunain, aros yn eu cymunedau a chadw’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn fyw.
Mae prif bwyntiau fy ngwaith i gadw’r freuddwyd o Wylfa yn fyw yn cynnwys:
- Mae Wylfa wedi cael ei henwi’n safle datblygu allweddol ar gyfer niwclear newydd yn Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain.
- Mae pum Gweinidog Llywodraeth y DU wedi ymweld â Wylfa ers 2020 i weld y safle wyneb yn wyneb ac i gwrdd â phobl leol, gan gynnwys y cyn Prif Weinidog, Ysgrifenyddion Gwladol BEIS a Chymru, a’r Gweinidog Ynni.
- Fel aelod o Bwyllgor y Bil Ynni Niwclear (Cyllid) roeddwn yn allweddol wrth gyflwyno deddfwriaeth newydd bwysig i ariannu niwclear newydd.
- Rwyf wedi dod â datblygwyr allweddol ym maes niwclear, gan gynnwys Bechtel a Rolls-Royce, i Wylfa a safleoedd tir llwyd lleol eraill, er mwyn iddynt allu gweld y cyfleoedd posibl.
- Mae’r Bil Ynni Niwclear (Cyllid) wedi cael ei roi ar waith i fynd i’r afael â’r materion cyllido a gyfrannodd at Hitachi yn tynnu’n ôl.
- Lansiwyd Cronfa Galluogi Niwclear y Dyfodol ar gyfer y DU gyfan o Wylfa, sy’n dangos pa mor arwyddocaol yw’r safle ym marn Llywodraeth y DU.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn gyffrous i ragolygon Wylfa. Ar ôl siom Hitachi yn tynnu allan o’r safle ddechrau 2021, gwelwyd cynnydd sylweddol ar gyfer ei dyfodol yn nes ymlaen yn 2021.
Roedd cyfuniad o’r rhyfel yn Wcráin, safon wael o ran faint o ynni solar a gwynt a gynhyrchwyd, a thân mewn gorsaf a oedd yn dod â thrydan i’r DU o Ffrainc yn ei gwneud yn glir pa mor fregus y gall ein diogelwch ynni fod. Ychydig cyn i’r DU gynnal cynhadledd COP26 yn Glasgow, roedd yr angen am ynni amrywiol ond dibynadwy yn amlwg yn brif bwnc i’w drafod. Daeth niwclear newydd yn un o hoff eiriau’r Llywodraeth, law yn llaw ag enw Wylfa.
Mae Wylfa yn safle arbennig iawn, gyda lle i gymryd adweithyddion modiwlar mawr a bach a fyddai’n creu miloedd o swyddi adeiladu a channoedd o yrfaoedd cyflwr sefydlog. Rwy’n gweithio gyda’r datblygwyr arfaethedig, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai i wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn barod i ymgymryd â’r rolau hynny. Drwy wneud hynny, rydym nid yn unig yn darparu dyfodol i’n plant ond hefyd yn rhoi hwb i’n heconomi leol ac yn cadw ein cymunedau, ein hiaith a’n diwylliant yn fyw.
Rwyf wrth fy modd yn gweld y cynnydd rydym wedi’i wneud ar yr agenda ynni niwclear dros y misoedd diwethaf, ac rwy’n disgwyl gweld mwy o ddatblygiadau dros y flwyddyn nesaf wrth i’r Llywodraeth fwrw ymlaen â’i Strategaeth Diogelwch Ynni.