Cafodd y rhaglen Ynys Ynni ei lansio gan Gyngor Sir Ynys Môn gyda chymorth Llywodraeth Cymru yn 2010. Yn anffodus, rydym yn cynhyrchu llai o ynni ar Ynys Môn ac yn cyflogi llai o bobl yn y sector ynni yn awr nag a wnaethom pan ddechreuodd y rhaglen. Gyda Llywodraeth y DU, rwyf am newid hynny a dangos mai Ynys Môn yw Ynys Ynni.
Ymysg ei buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £230m i ynni gwynt ar y môr, £20m y flwyddyn i brosiectau ynni’r llanw a bron i £5m i Hwb Hydrogen Caergybi. Rwy’n gweithio gyda busnesau fel BP, Menter Môn, Minesto a Morlais i’w helpu i gael gafael ar gyllid ar gyfer mentrau ynni adnewyddadwy arloesol. Gall y gweithrediadau hyn ddarparu cannoedd o gyfleoedd am yrfaoedd technegol sy’n talu’n dda i bobl Ynys Môn a helpu i gyflawni targed sero net 2050 Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth y DU yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd sydd gan Ynys Môn i’w cynnig, yn enwedig o ran ynni’r llanw a’r gwynt ar y môr. Un o’r rhesymau rwyf wedi dod â chynifer o Weinidogion yma yw er mwyn iddynt gael gweld y potensial enfawr sydd gan ein hynys i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Roeddwn hefyd am iddynt ddeall sut mae ein hynys wedi bod yn brin o adnoddau ers cymaint o flynyddoedd a faint o arian sydd ei angen ar ein cymunedau lleol.
Mae Llywodraeth y DU yn:
- Buddsoddi hyd at £160 miliwn mewn porthladdoedd a chadwyni cyflenwi a £31 miliwn mewn cyllid Ymchwil a Datblygu
- disgwyl cyflwyno hyd at 5GW o ynni gwynt ar y môr arnofiol erbyn 2030
- sicrhau buddsoddiad preifat gwerth £40 biliwn mewn ynni adnewyddadwy
- anelu at gynyddu capasiti ynni adnewyddadwy 15 y cant yn fwy yn y ddwy flynedd nesaf.
Gyda chyllid a chefnogaeth yn mynd i weithrediadau fel Morlais a Minesto, ynni’r llanw a gwynt ar y môr BP Mona, rwy’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod Ynys Ynni yn cadw at ei henw.