Er bod iechyd wedi'i ddatganoli ers 25 mlynedd, mae oddeutu traean o fy ngwaith achos mwyaf difrifol ar gyfer f'etholwyr sy'n dioddef, a hyd yn oed yn marw, oherwydd methiannau ein bwrdd iechyd lleol.
Clywais gan gleifion, teuluoedd a hyd yn oed aelodau staff sy'n bryderus iawn ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r effaith yr oedd ei ddiffygion yn ei chael ar bobl gogledd Cymru.
BIPBC yw'r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru o bell ffordd - gyda chyllideb o £1.9bn mae'n gyfrifol am chwarter poblogaeth Cymru - mwy na 700,000 o bobl ar hyd ardal eang iawn. Ar hyn o bryd, mae mewn mesurau arbennig Llywodraeth Cymru am yr ail waith - gyda chwech o'r deg mlynedd ddiwethaf wedi bod mewn mesurau arbennig - mae wedi cael ei alw'n "gamweithredol", "yn hollol ddi-drefn" ac yn "anobeithiol".
Ym mis Chwefror 2023 diswyddodd y Gweinidog Iechyd y bwrdd cyfan. Gwelodd archwiliad o 21-22 o'i gyfrifon fod £122m ar goll gydag uwch weithredwyr yn cael eu cyhuddo o ffugio cofnodion yn fwriadol. Mae bellach ar ei wythfed prif weithredwr mewn un ar ddeg mlynedd.
Ac mae hyn er gwaethaf setliad datganoli sy'n ariannu Llywodraeth Cymru gyda £1.20 i bob person am bob £1 yn Lloegr.
Mae'n anodd uniaethu gyda pha mor wael yw rhai o'r straeon a glywaf:
- Pobl yn cael eu hanfon adref o'r ysbyty yn salach nag oeddynt yn cyrraedd yno.
- Aros am ambiwlans am oriau...ac aros mewn ambiwlans am oriau y tu allan i'r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys.
- Gwallau mewn cofnodion cleifion.
- Apwyntiadau'n mynd "ar goll".
- Methiannau difrifol wrth ddarparu meddyginiaeth.
- Cleifion lliniarol yn marw yn yr ysbyty oherwydd y byddai "cyflymu'r broses" i'w cael nhw gartref yn cymryd wythnosau.
- Apwyntiadau meddygol yn cael eu canslo a'u hail drefnu mewn ysbytai 60 milltir i ffwrdd.
- Gwasanaethau deintyddol GIG lleol bron â dymchwel.
Yn anffodus, oherwydd bod Llywodraeth Cymru'n cynhyrchu data gwahanol i Lywodraeth y DU, mae bron yn amhosibl cymharu deilliannau cleifion ar draws y ffiniau.
Fodd bynnag, ystyriwch y canlynol:
- yn ystod 2023 collwyd 22.000 o oriau parafeddygon yng Nghymru yn aros tu allan i'r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys.
- Ym mis Ionawr 2024 arhosodd mwy na 3,000 o bobl Cymru fwy na 12 awr i gael eu rhyddhau o'r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys.
- Mae bron i 60,000 o gleifion BIPBC wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos i ddechrau triniaeth ym mis Ionawr 2024. Chwe blynedd cyn hynny, roedd y nifer ychydig is na 10,000.
- Mae dros 57,000 o bobl ledled Cymru wedi bod yn aros mwy na blwyddyn i ddechrau triniaeth gyda dros 24,000 o lwybrau cleifion yn aros mwy na dwy flynedd.
- Ers 2010-11 mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei gwariant iechyd 30.6% - ymhell islaw cynnydd Llywodraeth y DU o 38.9% yn Lloegr.
Ochr yn ochr â fy ngwaith yn amlygu'r problemau hyn gyda Llywodraeth y DU a helpu fy etholaeth i geisio gofal iechyd drwy waith achos, rwyf hefyd yn darparu cymorth ymarferol yn cynnwys: